Sefydlwyd Poetry Wales yn 1965. Cylchgrawn chwarterol ydyw gydag enw da rhyngwladol am gerddi, erthyglau ac adolygiadau rhagorol o Gymru a thu hwnt. Ac yntau wedi datblygu o ddiwylliant dwyieithog cyfoethog mae Poetry Wales yn archwilio amrywiol agweddau barddoniaeth Saesneg Cymru a’i chysylltiadau rhyngwladol.
Mae’r sylw mae’n ei roi i gyfieithiadau ac i hunaniaethau lleol a chenedlaethol mewn cyd-destun byd eang yn chwarae rhan flaenllaw yn rhai o’r datblygiadau mwyaf diddorol ym marddoniaeth heddiw. Mae’r cylchgrawn ar gyfer y traddodiadol a’r arbrofol ac fe gyhoeddir barddoniaeth o bob lliw a llun. Ynghyd â’r cyferbyniad trawiadol hwn mae’n rhoi cyd-destun beirniadol bywiog a deallus ar gyfer y farddoniaeth gyfoes orau.
Os hoffech inni ystyried cyhoeddi’ch gwaith, anfonwch gopïau o ddim mwy na chwe cherdd, ar bapur, at:
Dr Zoë Skoulding
Golygydd, Poetry Wales
Yr Ysgol Saesneg
Prifysgol Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
Cymru
Prydain
Amgaewch amlen ac arni stamp a’ch cyfeiriad am ymateb, neu defnyddiwch gwponau post [...]
Darllenwch fwy am:
Sut i Gyflwyno Gwaith
Cyhoeddir Poetry Wales gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
[...]
Darllenwch fwy am:
Cymorth Ariannol
The Purple Moose Prize returns for 2013!
Entries must comprise 20-24 original poems.
To get an idea of the kind of poetry we like, please purchase a copy of Poetry Wales.
Deadline: July 5th 2013
E-mail info@poetrywales.co.uk for more information and to receive an entry form
The winner of the Poet [...]
Darllenwch fwy am:
Y Mws Piws
Golygydd: Zoë Skoulding.
– Zoë Skoulding yw Golygydd cylchgrawn Poetry Wales a hi yw awdur y casgliadau o gerddi The Mirror Trade a Remains of a Future City ymhlith cyhoeddiadau eraill. Yn aelod o’r grwp Parking Non-Stop, mae wedi perfformio ei gwaith mewn barddoniaeth a cherddoriaeth mewn [...]
Darllenwch fwy am:
Staff
Pwyllgor Poetry Wales:
Bu John Barnie yn dysgu ym Mhrifysgol Copenhagen o 1969-82. Bu’n Olygydd Cynorthwyol (1985-90), yna’n Olygydd (1990-2006) y cylchgrawn diwylliannol Planet: The Welsh Internationalist. Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys Sea Lilies: Selected Poems 1984-2003, Trouble in He [...]
Darllenwch fwy am:
Pwyllgor