Pwyllgor

Pwyllgor Poetry Wales:

Bu John Barnie yn dysgu ym Mhrifysgol Copenhagen o 1969-82. Bu’n Olygydd Cynorthwyol (1985-90), yna’n Olygydd (1990-2006) y cylchgrawn diwylliannol Planet: The Welsh Internationalist. Mae ei gyhoeddiadau’n cynnwys Sea Lilies: Selected Poems 1984-2003, Trouble in Heaven (ar restr hir llyfr y flwyddyn, 2008) a Tales of the Shopocracy. Bydd The Forest Under the Sea, casgliad o gerddi, a Fire Drill, casgliad o ysgrifau, yn ymddangos yn 2010. Mae barddoniaeth John Barnie’s wedi’i chyfieithu i’r Ddaeneg, Estoneg a’r Eidaleg. Mae wedi perfformio gyda’r bilingual blues a’r bandiau barddoniaeth Llaeth Mwnci Madoc a’r Bechgyn Drwg.

Mae Lyndon Davies yn byw ym Mhowys, lle mae’n cydredeg seminarau Glasfryn. Cyhoeddwyd ei gasgliad cyntaf o gerddi, Hyphasis (Parthian),yn 2007. Bydd ei ail gasgliad o gerddi, Shield (Parthian) yn ymddangos yn 2010. Mae hefyd yn cydredeg Gwyl Farddoniaeth y Gelli.

Mae Damian Walford Davies yn dysgu yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae wedi cyhoeddi dau gasgliad o gerddi: Whiteout (Parthian 2006) ar y cyd â Richard Marggraf Turley a Suit of Lights (Seren, 2009), ac wedi cyhoeddi’n helaeth yn ei ddau brif faes – Rhamantiaeth a dwy lenyddiaeth Cymru. Ef yw Golygydd Cyffredinol Oxford Literary History of Wales sydd ar fin dod o’r wasg.

Sioned Puw Rowlands yw Cyfarwyddwraig Cyfnewid Llenyddiaeth Cymru sy’n hwyluso cyfieithu llenyddiaeth rhwng Cymru a’r byd ac sydd hefyd yn ysgrifenyddiaeth i Dy Cyfieithwyr Cymru. Mae hi hefyd yn gydolygydd cyfres Seren Literature in Translation gyda Patrick McGuiness. Mae’n gyd-awdures yr adroddiad Making Literature Travel: support for literary Exchange and translation in Europe gyda. Hi yw Golygydd Gyfarwyddwr a Sylfaenydd yr European Internet Review of Books and Writing Transript. Ymhlith ei chyhoeddiadau mae astudiaeth gymharol o estheteg wleidyddol ac ysgrifau Václav Havel, Bohumi Hrabal a Twm Morus (Gwasg Prifysgol Cymru) a chasgliad o straeon byrion a enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd (1996).

GWYBODAETH

NEWYDDION

CHWILIO